Dwi wedi derbyn sawl comisiwn i ysgrifennu sioeau neu gyflwyniadau gan gynnwys :
- Copa Caban – sioe yn ymwneud a chwedlau godre’r Wyddfa – cerddoriaeth gan Sian Wheway. Comisiynwyd gan Rygarug
- Genau Goeg – cerddoriaeth gan Sian Wheway. Comisiynwyd gan yr Urdd. Cyfarwywddwyd gan Carys Huw
- Y Gwcw Fach – sioe yn seiliedig ar ganeuon a chwedlau gwerin ardal Dolgellau – cerddoriaeth draddodiadol. Comisiynwyd gan Ysgol Gynradd Dolgellau
- I’r Copa - sioe yn seiliedig ar chwedlau Dyffryn Conwy – caneuon gan Gai Toms. Cyfarwyddwyd gan Llion Williams. Comisiynwyd gan Fenter Iaith Conwy.
- Nadolig yn Rwla – Sioe Gerdd wedi ei seilio ar gymeriadau cyfres Darllen mewn dim gan Angharad Tomos – cyhoeddwyd gan y Lolfa
- Nadolig y Gwichiaid Collion – sioe am lygod bach sydd wedi colli eu gwich !
- Coch Bach y Bala - cerddoriaeth Sioned Webb. Opera Werin fer wedi ei chomisiynnu gan Trac a’i pherfformio yng ngharchar Rhuthun. Cyfarwyddwyd gan Carys Huw
Byddaf hefyd yn cynnal gweithdai sgriptio. Mae Galeri Caernarfon, Theatr Ardudwy Harlech, Ty Newydd Llanystumdwy, Yr Academi / Llenyddiaeth Cymru, Cyswllt Celf Powys ymysg rhai o’r sefydliadau sydd wedi fy nghyflogi i gynnal gweithdai sgriptio.