Newyddion

Ydi’r haf wedi gorffen yng Nghorffen-naf ?

Gobeithio ddim wir achos mae gen i dipyn o bethau i’w gwneud am weddill yr haf.

Ar hyn o bryd dwi’n paratoi ar gyfer yr Eisteddfod yn Ynys Mon.

Seiat Stori
7 Awst 17 - 13:00, Ty Gwerin
Dewch i ranu neu wrando ar chwedlau o Fon – bydd sawl storiwr yno ....

Stori Cyn Troi: Y Biliwnydd Bach
- Mair Tomos Ifans 7 Awst 17 - 17:00, Gŵyl Llên Plant
Ymunwch gyda ni am stori i orffen y dydd.
Ymgasglwch o gwmpas y tân lle byddwn yn rhostio malws melys ac yn camu i fyd y rhyfeddodau gyda stori arbennig i orffen y dydd.
Mair Tomos Ifans sy’n darllen addasiad Cymraeg Mared Llwyd o Billionaire Boy gan David Walliams.
Mae Joe yn byw breuddwyd pob plentyn 12 oed. Mae'n filiwnydd gydag ali fowlio, sinema a hyd yn oed gwas ei hun, sydd hefyd yn digwydd bod yn orang-utang! OND! Mae un peth ar goll - ffrind! Byddai'n gwneud unrhywbeth i gael ffrind!

Sesiwn Chwedlau
Mair Tomos Ifans 8 Awst 17 - 12:00, Gŵyl Llên Plant
Mae Cymru’n llawn chwedlau am anfieiliaid o bob math – gwiberod drewllyd a gwartheg hud, pysgod a llyffantod heb sôn am y neidr o Benhesgyn a Tyger y ci bach dewr. Ymunwch efo mi i ddarganfod mwy.

Straeon Sgragan
Coleg Prifysgol Aberystwyth 2pm

GWENI
Mair Tomos Ifans 9 Awst 17 - 13:00, Cwt Drama

“Sgen i ddim craith fach wen fel edau rownd fy ngwddw i nodi be’ ‘nath o imi ... a tydw inna ddim yn Santes ... “ Mae ‘na ferched yn byw yn ein cymunedau bach cymdogol diwylliedig sydd hefyd yn byw efo trais. Mae ‘na ferched sy’n canu yn ein corau ac yn gwneud paneidiau yn ein festris sy’n cael bywyd erchyll adre ...”

Gwaith comisiwn ar gyfer Gŵyl y Grawnwin oedd Gweni. Y dechreubwynt oedd chwedl Santes Gwenffrewi. Byddaf yn ei hatgyfodi ar gyfer un perfformiad yn yr Eisteddfod gyda’r bwriad wedyn o benderfynu os y bydd yn teithio led gwlad. Mae’r ddrama yma yn un ddwys ac yn wahanol iawn i’r math o waith y mae pobl yn ei gysylltu a mi fel arfer.

Noson Lawen Anffurfiol
9 Awst 17 - 17:00, Ty Gwerin
Sesiwn hwyliog (goch ei naws!) gyda llu o artistiaid yn diddannu o gomediwyr i glocswyr, offerynnwyr a chantorion. Llond llwyfan o chwerthin a chyfraniad y gynulleidfa yn holl bwysig. Dewch i brofi hwyl y Noson Lawen!

Wedi’r Esiteddfod byddaf yn treulio peth amser yn datblygu cyflwyniad Theatr Stryd efo Nuala Dunn a hynny dan nawdd Articulture. Cyfuniad o straeon a canws ! Cawn weld be’ ddigwyddith !

Mi fydd Y LADIS yn mynd ar daith fer yn yr Hydref os ydi pobl yn dymuno eu gweld .... os am drefnu noson efo’r Ladis yn eich ardal chi – cysylltwch ......

Daeth y Ladis – sef Carys Huw, Nia Medi a mi - at ein gilydd erbyn Eisteddfod y Fenni. Sioe lwyfan ddoniol ac amharchus ydi Y Ladis. Cymeriadau wedi eu selio ar greadigaethau yr artist amryddawn Ruth Jen Evans. NID yw’r sioe yn addas ar gyfer plant na phobl cul eu meddwl !! Mi fydd y Ladis ar daith eto yn yr Hydref – os ydech am drefnu noson cysylltwch.

Mae geni sawl prosiect arall dan fy nghesail yn aros i gael eu datblygu a gobeithio y bydd gweddill 2017 a 2018 yn gyfle i gael gwneud hynny.

Roedd chwe mis cynta’r 2017 yn rhai amrywiol a difyr dros ben.

Cyn y Nadolig mi gefais nifer o ddiwrnodau wrth fy modd unwaith eto yn Chwedleua a thrafod arferion traddodiadol y tymor yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis. Un o’m hoff lefydd i weithio ynddo ... tân clyd a chroeso cynnes. Mae’r croeso bob amser yn gynnes yn y Saith Seren yn Wrecsam hefyd ac fe gafwyd Parti ‘Dolig bywiog iawn yno.

Cyn y Nadolig hefyd mi fum yn crwydro Cymru yn recordio rhaglenni ar gyfer BBC Radio Cymru. Pedair rhaglen ar dafardai Cymru – Tai Potes – lle roedd rhaid i mi ymweld a thafarnau a sgwrsio efo pobl. Hen waith caled ! ... ond mae’n rhaid i rhywun ei wneud o !

Wedi’r ’Dolig mae’r Plygain yn mynd a’m bryd – Llanerfyl, Dinas Mawddwy, Abergynolwyn a Darowen, Mallwyd, Llanfair Harlech. Mae gwasanaethau Plygain yn brofiadau arbennig iawn ac yn rhoi dechrau da i’m blwyddyn.

Bu’r penglog ceffyl yn gwmni efo mi i sawl lleoliad yn ystod mis Ionawr - yn Ysgol Bro Hyddgen Machynlleth, Ysgol Penybryn Tywyn, yn y Bermo efo Merched y Wawr ac yn Ysgol Min y Ddol.
Bum yn mynd i Ysgol Min y Ddol Cefn Mawr bob wythnos bron yn ystod tymor y Gwanwyn. Roeddwn yn un o’r Ymarferwyr Creadigol oedd yn gweithio ar gynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol. Cefais fodd i fyw yno – ysgol arbennig o groesawgar a disgyblion a staff agos atoch a hawddgar a brwdfrydig ac roedd yn blesser ac yn fraint cael cyd-weithio efo’r artist Catrin Williams a’r dawnsiwr Jamie Jenkins a hefyd mi ymunodd y Chwedlwraig Fiona Collins efo ni hefyd. Cefais glystog arbennig yn anrheg ar ddiwedd y cynllun ac rwyf yn ei drysori.

Bum hefyd yn rhan o gynllun difyr iawn efo Storiel Bangor. Gofynwyd i mi ymateb i ddarn o gelf sef Cist Rhyfeddodau gan a chreu cyflwyniad o’r ymateb. Roedd yr artist wedi creu gwaith anhygoel o fanwl a chrefftus mewn ymatebiad i’r trugareddau sydd yn eiddo i’r amgueddfa yn Storiel Bangor – amgueddfa i Wynedd gyfan wrth gwrs. Yr hyn wnes i oedd creu fy Nhgist Rhyfeddodau fy hun gan ddefnyddio’r myrdd truagreddau sy’n llenwi fy nhgartref i ac adrodd y straeon a’r hanesion a’r caneon sydd yn gysylltiedig efo ‘r trugareddau. Roeddwn yn darllen detholiadau o lyfr nodiadau a ysgrifennodd fy mam am ei phlentyndod. Cafwyd nosweithiau yn Nhywyn, Blaenau Ffestiniog, Llanberis a Cricieth.

Roeddwn wrth fy modd i gael gwhaoddiad gan Lenyddiaeth Cymru i greu a chyflwyno taith Chwedlau mewn bws yn ardaloedd Aberdesach a Chlynnog, Llanaelhaearn a Nefyn. Mae’r lle yn frith drafflith o chwedlau a llen gwerin .... anodd oedd creu detholiad.

Bum hefyd yn Nhy Newydd yn tiwtora a y pwnc o rannu’r Chwedlau. Dwirnod da yng nghwmni pobl glen. A bum ar ymweliad a Chaerdydd fel rhan o’r Wyl Lenyddiaeth Plant.
Cefias gyfle hefyd i berfformio yn y Llyfrgell Genedlaethol wrth lansio y llyfr Y Biliwynydd Bach. Tydi’n leoliad gych ?

Mi fu’r Ladis a daith fach fer ym mis Chwefor a Mawrth.

Cefais groeso cynnes mewn festrioedd a neuaddau cymuned led led ein gwlad – mae’r rhain yn rhy niferus i’w henwi – ond diolch i chi i gyd am bob paned a brechdan a sgonsan. Dwi’n ddiolchgar iawn i’r cynllun Noson Allan Fach am noddi’r nosweithiau hyn. Os hoffech i mi ddod draw i ddiddanu eich cymdeithas / canolfan/ cymuned / clwb yna cysylltwch – mae Hydref 2017 a Gwanwyn 2018 yn prysur lenwi gen i.

Bu Rala Rwdins ar ei thrafels dipyn hefyd yn ystod misoedd cynta’r flwyddyn ac mae ganddi sawl lleoliad arall yn y dyddiadur ....

Bum yn beirniadau yn Esiteddfod Llanegryn .... nid rhywbeth y byddaf yn cytuno i’w wneud yn aml iawn; oherwydd nad ydw i wedi bod yn gystadleuydd Eisteddfodol gyson o bell tydw i ddim yn teimlo fy mod a’r hawl i farnu perfformiadau eraill.Ond gan mai Llanegryn oedd yn gofyn – cartref fy hynafiaid ers cenedlaethau mi dderbyniais y tro yma .... a chael brechdannau ffagots a chacennau blasus hynod !


2016 yn barod!

Cyn y Nadolig mi gefais nifer o ddiwrnodau wrth fy modd unwaith eto yn Chwedleua a thrafod arferion traddodiadol y tymor yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis. Un o’m hoff lefydd i weithio ynddo ... tân clyd a chroeso cynnes. Mae’r croeso bob amser yn gynnes yn y Saith Seren yn Wrecsam ....

Ers y Nadolig dwi wedi bod mewn sawl Plygain – Llanerfyl, Dinas Mawddwy, Abergynolwyn a Darowen. Yn anffodus ‘dwi methu mynd i Fallwyd ond yn gobeithio cyrraedd Plygain Ellis Wynne yn Llanfair Harlech ar yr 20fed ... Mae gwasanaethau Plygain yn brofiadau arbennig iawn.

Wedi bod yn yr atig hefyd yn estyn y penglog ceffyl ar gyfer cyflwyno ambell i weithdy efo’r Fari Lwyd. Buom yn Nhy Siamas yn Nolgellau nos Sadwrn y 9fed. Edrych mlaen hefyd i fynd a’r Fari i Ysgol Morfa Nefyn ac Ysgol Bro Hyddgen Machynlleth. Mae angen i mi hefyd gyfansoddi nifer o benillion yn barod at noson Y Fari Lwyd yn Ninas Mawddwy nos Sadwrn 16eg ... noson ardderchog bob blwyddyn ... dylai bawb ei phrofi o leiaf unwaith!

Mae tymor prysur ac amrywiol o’m blaen rhwng rwan a’r Pasg. Mae gen i gynllun diddorol iawn yn Ysgol Uwchradd Lllanfyllin, sy’n un o Ysgolion Creadigol Arweiniol Cyngor y Celfyddydau. Edrych ‘mlaen yn arw at gychwyn ar y prosiect yma .

Mi fyddaf hefyd yn ymweld a ysgolion eraill gan gynnwys nifer yng Ngheredigion i gyflwyno Gweithdai Chwaraeon Buarth a phob nos Fercher yn Nhy Siamas Dolgellau byddaf yn y Clwb Drama newydd ar gyfer disgyblion bl. 7, 8 a 9 sy’n cael ei gynnal dan nawdd Hunaniaith, ac wrth gwrs bydd sawl ‘gig’ i Glybiau Merched y Wawr a Chymdeithasau Diwylliannol.


Wedi bod yn treulio ychydig fisoedd yn darllen ac ymchwilio a chreu - ac yn cael hoe ar Ynys Enlli dros yr haf. Bellach yn barod i wynebu gwaith y Gaeaf ... byddaf yn ymweld ag amryw o ysgolion a chymdeithasau ac mae nifer o berfformiadau / gweithdai cyhoeddus wedi eu trefnu hefyd – gweler y dyddiadur


urdd

Roeddwn i a Rala Rwdins yno ar stondin CBAC yn dathlu. Mae’n anodd credu bod 30 mlynedd wedi mynd heibio ers i Angharad Tomos gyhoeddi’r llyfr cyntaf am hanesion trigolion Gwlad y Rwla.

Rala Rwdins yn Eisteddfod yr Urdd Penfro

urdd urdd urdd urdd

Cliciwch ar y lluniau i weld yn fwy.

 

Oriel Lluniau Mair Tomos Ifans

pix pix pix pix pix pix

AmdanafMair Tomos Ifans

Cyfarwydd – dyna ydw i. ‘Dwi’n adrodd chwedlau, straeon a hanesion traddodiadol am gewri Cymru a thylwyth teg, am arwyr a dihirod, am ddigwyddiadau od a chreaduriaid dychrynllyd. Mae gen i delyn fach benglin a bydd honno yn fy helpu i ddweud y straeon drwy ganu caneuon ac alawon traddodiadol pwrpasol. mwy...

Cysylltwch a fiMair Tomos Ifans

Cliciwch yma i lenwi ein Ffurflen Cysylltu

Bookmark and Share