Gallaf lunio gweithdy at eich dibenion penodol
Cysylltwch parthed hyd a chost y gweithdai
Dyma’r math o weithdai y gallaf eu cynnig :
- 1. CHWARAEON BUARTH – gemau traddodiadol a gemau gwreiddiol. Gellir darparu pecyn ‘Chwarae’r Gem’ (Atebol ) yn rhan o’r gweithdy. addas ar gyfer pob oedran
2. ACTIO . addas ar gyfer pob oedran
3. CANEUON AC ALAWON GWERIN addas ar gyfer pob oedran
4. SGRIPTIO addas ar gyfer pob oedran
5. STRAEON A CHWEDLAU’R GAEAF A’R NADOLIG O GYMRU A THU-HWNT addas ar gyfer pob oedran
6. Y PLYGAIN, Y C’LENNIG, Y DRYW A’R FARI - Arferion traddodiadol Cymru - addas ar gyfer pob oedran
7. PWY NEU BETH YW’R FARI LWYD ? - Ychydig o hanes y Fari. Cyfarfod y penglog ceffyl sydd wedi ei osod ar ffon ac yna ‘gwisgo’r Fari . Creu rhubannau i addurno’r Fari, dysgu rhai o’r pennillion traddodiadol a chreu rhai newydd, gorymdeithio efo’r Fari Lwyd a chanu’r pennillion - addas ar gyfer pob oedran
8. HWIANGERDDI A STRAEON – sut i’w cyflwyno i blant bach – addas i fyfyrwyr ac oedolion
Mae’n braf weithiau cael cyd-weithio efo TRAC I gyflwyno gweithdy ar y Fari Lwyd
LLUNIAU Mair ac Angharad Jenkins yn cyflwyno gweithdy yn Ysgol Penybryn Tywyn
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |