Caneuon gwerin ydi fy mhrif faes fel cantores ond mi rydw i hefyd yn cyfansoddi a chanu fy nghaneuon gwreiddiol fy hun ac yn eu perfformio gan amlaf i gyfeiliant gitar ond byddaf hefyd yn defnyddio’r delyn, y recorder, y mandolin, y banjo ...
Dros y blynyddoedd ‘dwi wedi perfformio yng Nghymru, a thu hwnt, mewn neuaddau, theatrau, nosweithiau llawen, clybiau gwerin, gwyliau a gwestai.
![]() |
1. Gwyl Ban Geltaidd - enillodd fy nghân ‘Enlli’ y wobr gyntaf am y gân werin wreiddiol. |
2. Enillais Wobr Goffa Elfed Lewis Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009, ac ym Mro Morgannwg yn 2012, Gwobr Goffa Lady Herbert Lewis, prif wobr y canu gwerin.
![]() |
3. Roeddwn yn un o’r cantorion a gyfrannodd at brosiect Ffylantin-tw – Teyrnged y Traddodiad i Meredydd Evans a Phyllis Kinney. |
4. Byddaf yn perfformio yn achlysurol fel rhan o driawd efo Arfon Gwilym a Sioned Webb