Caneuon, Cerddi a Chwarae

image

 

TALWRN Y BEIRDD – CRIW Y LLEW COCH

‘Dwi’n aelod o dim Talwrn y Beridd – Criw’r Llew Coch ... ac mi aethom drwodd i’r rownd gor-gynderfynnol. Colli wnaethom – o drwch blewyn – i’r Glêr. Yn yr ail rownd mi roeddem yn cystadlu yn erbyn tim Penllyn mewn gornest a recoridwyd yng Nghlwb Peldroed Porthmadog. Cafodd fy nhelyneg i – a thelyneg Haf Llywelyn o Benllyn – 10 marc. Dyna dysteb ragorol i addysg Ysgol Ardudwy yn y 70au gan bod y ddwy ohonom yn cyd-oesi yno - er mod rhyw fymryn yn hyn na Haf ! Dwi’n ei chyfrif yn dipyn o anrhydedd i gael 10 am gerdd gan y prifardd Ceri Wyn ....

BBC RADIO CYMRU – Archif Y TALWRN - cliciwch yma

talwrn talwrn

 

Lolfa Cyhoeddwyd gan y Lolfa (www.ylolfa.com) – ar gael yn eich siop lyfrau Gymraeg leol
   
Lolfa Cyhoeddwyd gan y Lolfa (www.ylolfa.com) – ar gael yn eich siop lyfrau Gymraeg leol
   
Lolfa Cyhoeddwyd gan y Lolfa (www.ylolfa.com) – ar gael yn eich siop lyfrau Gymraeg leol

CHWARAEON BUARTH
‘Dwi wedi creu gemau buarth gwreiddiol yn seiliedig ar Chwedlau a Hwiangerddi yn ogystal ag atgyfodi ambell i gem draddodiadol oedd bron a darfod o’r tir.

Ugain o gemau difyr a deniadol i blant i chwarae y tu allan a thu mewn y lleoliad. Addas ar gyfer plant sy'n siarad Cymraeg fel mamiaith neu fel ail iaith. Cyfle gwych i blant chwarae a mwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ceir cyfres o luniau sy'n dangos sut mae chwarae'r gem yn ogystal a chyfarwyddiadau syml a hawdd i'w dilyn. Cyfarwyddiadau sy'n egluro beth ydy bwriad y gem a pha sgiliau sy'n cael eu meithrin. Cynnig cyfle gwych i ddatblygu iaith lafar drwy chwarae ... a mwynhau'r un pryd!

Addas ar gyfer athrawon, cynorthwywyr dysgu a rhieni. Gemau y mae plant yn gallu eu chwarae a'u mwynhau yn yr ysgol neu yn y cartref ... neu mewn parti pen-blwydd!

DVD yn cynnwys rhai o'r gemau yn cael eu chwarae gyda Mair Tomos Ifans yn arwain y chwarae. Cyfawyddiadau Saesneg ar gyfer y rhai sydd angen canllawiau ar gyfer chwarae'r gemau.

atebol @ebol - cliciwch yma

 

BBC RADIO CYMRU – Archif Y TALWRN - cliciwch yma

talwrn talwrn

 

RHAI O’M CERDDI

Awn i gysgu i swyn dy hwiangerdd
a deffro i rhythm dy ddawns.
Pob Sadwrn
Gwyliau Pasg
Diolchgarwch
Y Llungwyn a’r Haf
yn ryddid braf
yn ddyddiau hir
yn ddyfroedd clir
yn welintyns duon
ac anoracs gwyrddion -
yn sticyl bacs mewn pot jam
a “bydda’n ofalus” mam.

Cloddio yn y gro dan bont y Gamallt
Creu cerrig camu’n uwch i fyny
Wrth y ddwy stepan
Sy’n sticio allan
Cuddio yn jyngyl y riwbob gwyllt
a saethu pys drwy’r coesau sych.
Croesi’r beipen siwrij heb sbio lawr
- a chael drwg am wneud

Heddiw piciais lawr at bont y Gamallt
A synu gweld mieri’n cuddio’r gro,
Fu plant ddim yno’n cloddio,
ddim ers tro,
Rhy berryg debyg;
Dieithriaid wedi hawlio’r jyngyl
a’i ddiwyllio,
planu blodau pinc diniwed
a mainc,
parc dinesig
ffens bach blastig ,
Eisteddais ar y fainc i wrando’th hwiangerdd
a chael drwg am wneud
Nid fi sydd piau’ th lannau bellach,
Daeth rhywrai i ddwyn dy ddorlan
A gosod rhwystra’
ar draws yr wtra i’r bacia’,

Ysu i fynd wnes i
mynu dilyn dy li
i’r dyfroedd eang,
i’r môr mawr,
a chael siom ei fod mor hallt

( i Gruffydd a fyddai wedi bod yn 50 oed fis Ionawr 2007)

Yr wyt wên mewn bavaclava,
wyneb clir,
yn rhowlio eira, gwthio, dringo
yn gawr ar gefn ei gaseg,
yn frawd mawr
a mi'r chwaer fach yn dipyn llai.

Yr wyt ysgwydd gref mewn blazer,
wyneb cadarn,
yn rannu tyner, cofio, cysuro
yn gefn mewn awr gyfyng,
yn frawd mawr,
a mi'r chwaer fach rhyw fymryn iau

Yr wyt erwinder fy ngwanwyn
yn gwmwl llwyd fy nyddiau gwyn,
llymder mewn llawenydd
yn hollti fy sicrwydd,
yn taro cyn yr awr
a'r pendil yn peidio,
a'r chwaer fach hon ei hun

Yr wyt eto mewn atgof,
wyneb clên
nad aiff yn hen,
yno'n rhan o'm stori
ymysg fy mabinogi,
yn hiraeth nawr ac yn y man
am frawd mawr -
a'r chwaer fach dri degawd yn hŷn

CWM

Misoedd, blynyddoedd o fyw yn y cwm –
Llechweddau’n eu cwman, hafnau llwm,
Coedwigoedd di-fywyd, di-lwybr, di-liw,
Olion hen hanes, crachan hen friw;
Glynnoedd cysgodion, crognentydd cudd,
Dagrau di-derfyn cymylau prudd.

Deffro un diwrnod a chanfod y nerth
I droedio llechweddau, gelltydd serth
Goresgyn clogwyni, cael codwm, craith,
Cip o’r copa dan niwlen sawl gwaith;
Ymwthio trwy’r tawch, bu yn ymgyrch hir –
Gweld cwm, gweld y cyfan yn gwbl glir.

Pan fydd fy ngwaith wedi dod i ben
Ar ôl yr hwyl a’r asbri
Pan ddaw hi’n bryd i gau y llen
Fe rown y byd a’i sbri i gyd
Pe cawn groesi’r Swnt i Enlli

Pan gaf fy hun ‘di cael llond bol
Ar stad y wlad a’i gweision
Pan ddaw hi’n bryd i wadu’r lol
Fe rown y byd a’i stwr i gyd
Pe cawn groesi’r Swnt i Enlli

Pan fydd fy mron ‘di hollti’n ddwy
A’m calon fach yn deilichion
Pan ddaw hi’n bryd i fendio’r clwy
Fe rown y byd a’i serch i gyd
Pe cawn groesi’r Swnt i Enlli

Pan gaf fy hun ar estron dir
Ar draws y byd, o Gymru,
Ymhen draw’r byd rhaid gweld y gwir
A rhoi fy mryd ar gael teimlo’r hud
A chroesi’r Swnt am Enlli.

Bu ffrindiau yn bwysig i bawb erioed,
Ffrindiau cicio pel, a ffrindiau dringo coed,
Ffrindiau teledu
Ffrindiau deud stori,
Ffrindiau bach fflyffi a ffrindiau wyth troed.

Ma gen i ffrindiau parc, beic a chriced -
Swyn, Gweltaz a Josh, ac Einion, Daniel, Beds,
Iwan a Dyfan,
A’m mrawd mawr Osian
Ond y pennaf o’r cyfan, yw fy ffrind Tedi Teds.

Cyrraedd at y bwrdd
moethus chwaethus,
mi a llu o'r 'nhw' di ri,
gwisgoedd llîn yn disgyn
yn enfys bastel ddi-drysor,
cawl eildwym ar wefusau
a gweniaith ynghudd mewn sylwadau,
celfyddid hyd y platiau
saig ar ôl saig hyd at syrffed,
yfed gwin
o'r grisial troedig
a'r gwenau'n ffug a ffals a phlastig

Cerdded fyny'r cwm
dirgel tawel
mi a chdi, nhw'u dau a'r ci,
crysau T, cotiau glaw
yn enfys sy'n llawn gobeithion,
gwreiddioldeb y gwefusau
yn fwrlwm di baid yn fy nghlustiau,
y picnic yn ein paciau
wy ‘di ferwi, afal, siocled,
llymed o ddwr
hen gwpan fflasg blastig
a'r gwenau'n risial pur a bendigedig.

(i Elis)

Fe ddaethost, bach, i'n bywyd
yn bryder i gyd,
yn "efallai",
yn "neb yn sicr",
a'r ansicrwydd yn ofid cyhyd.

Ond wrth dy fagu'n ddiddos
diflannu wnaeth yr "os"
a
bellach, bach, ti'n brysur,
yn gysur o gyfri grisiau,
enwi lliwiau ac adnabod llythrennau,
yn gafael yn sownd nôl a mlaen ar y siglen
fyny ac i lawr un, dau, tri, ar y llithren,
"dau gog bech yn mynd i'r coed
welingtons newydd ar bob troed"
yn canu tra'n camu'n y mwd a'r llaid
yn dwrdio dy frawd efo "ffon i nain"
sy' 'di "colli taid" , parablu dibaid.

Er dy fod ar adegau'n gythraul mewn croen
a'th dantryms dwyflwydd yn gur pen, yn boen
Weithiau, minnau'n ysu eisiau cysgu,
A'th bendolcio'n fy styrbio a'm cadw'n effro,
Dwi'n cofio dy fod ti hefyd
Yn wyrth, bach, ac yn werth y byd.

Bro fy mebyd
Hafan fy hafau hirfelyn
Blodau ‘menyn
Botwm crys
Llygaid doli a’r dydd
Yn bolca dots ar wisg y cof.
Cosi’r paill yn hallt yn fy llygaid
Heli’r môr a’r ‘chips’ ar fy nhafod
Sain y Saesneg
Croen fel cneuen
Swnd yn sownd rhang bodiau ‘nhraed
Tar yn toddi
A glynu
Ar wadna’ sandala’
Wrth ymlwybro adra’.
Swper sydyn.
Blinder, di-bryder, braf.
Cwsg esmwyth. Fy haf.

Cyn byrhau y diwrnodau
Dad-wreiddio’r synhwyrau
A dyfod pryderon fy Hydref.

Swatia’n glyd, gwerth y byd
Cei gysgu tan y bore
Sws i mam, ni chei gam
Cysga di dy ore
Mwytho llaw, ni chei fraw
Cei gysgu tan y bore
Cloi y drws, mhlentyn tlws
Cysga di dy ore

Heno heno huna’n mhlentyn
Huna’n hogan dda i mam
Ni chaiff ddim amharu’th gyntun
Ni wna undyn a thi gam
Noswaith braf ganol haf
Ond gwynt o’r dwyrain chwyth
Noswaith fwyn llawn o swyn
Ond pwy s’yn gwylio’r nyth ?

Ffrindiau’n cwrdd wrth y bwrdd
Lwli lws lodes dlws
Y Capten wrth y bwrdd
A’r llong yn mynd i ffwrdd
Lwli lws lodes fach dlws

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

Wyt ti heno’n huno mhlentyn ?
Deilen gura ar y ddôr
Heno heno suo suo
Tonnau unig glan y môr
Gwena’n dawel ar yr awel -
Mam a ddaw i’th nôl,
Mwytho pen angel wen
Swatia yn fy nghôl

O na bai mreichiau’n dynn amdanat,
Cariad mam sy’n rhwygo’m bron
Clyd a chynnes fai fy mynwes - ond
Gwag ac euog ydyw hon.

Wyddwn i ddim cyn dod yma
Fod beirdd yn dilyn rhyw fantra,
Mi welais i un
Yn siarad fo’i hun
Ac yn cyfri ei fysedd fel yma.

Wyddwn i ddim cyn dod yma
Bod copa y Gader dan eira
Ond o graffu yn nes
Mi welwch drwy’r tes
Mai dandryff rhen Idris di hwnna

Un noson, wrth gerdded am adra,
Mi gwrddais i a dyn eira,
Mi ddoth mewn am banad
A rhyw fymrym o damad -
‘Ro’dd y diawl wedi mynd erbyn bora!

Hen goeden Nadolig ‘di sigo
Hen dinsel yn hongian fel amdo
Fish ffingar di’r twrci
A does ‘na ddim grefi
A ‘dwi’m di cael un cerdyn eto.

Ma’ Santa’r y to unwaith eto
Ma’ nhrimmings i angen ei dystio
Daeth Santa i lawr
‘Fo dystar go fawr –
A nawr ma’ fy mobyls i’n sgleinio

Hen goeden Nadolig ‘di sigo
A hen drimmings angen eu sgleinio
Daeth Sion dros y ffin
Efo’i ffrind, Mr. Sheen
A ma’ bobyls fi rwan yn twinclo.

Ma’ byddin o deulu ma’i ginio
Bum wrthi ers chwech yn coginio
Mi losgias fy mys
Wrth achub y pys
‘Dwi’n laddar o chwys! Ydio werth o?

( LIMRIG YN CYNNWYS ENW GWLAD)

Mi es i dre’r Cofi i siopa
A chwilio am siop fach Patricia
Mi stopiais rhyw go’
Mi holais i o
“No no,” medda fo,” Pat a gone ia !”

Un bore mi godais yn gynnar
A llnau'r ty tan ro'n i yn laddar-
Dim llychyn, dim llanast
Nes i bawb godi'i frecwast
A wedyn mi waeddais "Wei boddar !"

Un bore mi godais yn gynnar
Gwneud yoga a gwrando ar drydar
Yr adar bach tlws
O amgylch fy nrws -
A wedyn i'r gwely tan swpar!

Un bore mi godais yn gynnar
I wrando ar sain a swyn trydar,
Ond toedd 'na ddim siw,
Na, toedd na ddim miw,
Mond “Miaaaw” gan hen lofrudd yr adar!

Un bore mi godais yn gynnar
A chlywed swn mwyaf aflafar -
Does dim byd llai trendi
Nag 'air guitar' dodji,
Na dim byd mwy 'sad' na hen rocar!

Y mae’n nos yn llofft Osian,
Cysgodion yn cuddio’n eu cwman;
Clebran a phrepian hen freuddwyd,
A checian ystyllod a distiau’n creu arswyd
A’r llenni’n fwganod llwyd.

Bloedd, yna gwaedd ac igian ,
Fy llaw yn mwytho, lliniaru’r hewian,
Sisial, mwmial “’na ni a ‘na fo”,
Blinder yn llorio, ac yntau yn ildio,
Pob bwgan bellach ar ffo.

Wedi tawelu’r bychan,
A synnau’r tywyllwch tu allan,
‘Dwi’n dal i deimlo, a chlywed eto
Eich llais a’ch llaw, a minnau’n ofan –
Un noson yn llofft Osian.

MIC

Mae gen i gi o’r enw Mic
Sy’n hoffi rhedeg ar ôl pric,
Mae’n byw mewn cwt yng ngwaelod yr ardd,
Mae Mici ni yn gi mawr hardd –
Un gwyn a du, neu ddu a gwyn
A chynffon sy’n ysgwyd yn hapus – fel hyn.

Pan mae Mic yn cael mynd am dro
Mae’n tynnu dad ar hyd y fro
Lawr i Ddol y Bont neu drwy y coed,
A weithiau mae o’n brifo’i droed –
Mici Mocs, hen horwth o gi,
Ond horwth mawr annwyl – a’m ffrind gorau i.

Cytgan :
Dwi’n mynd i anwyby ddu’r Dolig a’r Calan ar ei hyd
Osgoi y partis a’r pennau mawr i gyd
‘Dwi’n mynd i aros yn fy ngwely lle mae’n gynnes a chlyd –
A gwrthod ail ymddangos tan fis Chwefor

‘Dwi ‘di cael llond bol ar y rhuthro a’r lol
Wedi cael fy ngwala ar y siopa
Mae’r goeden rhy fawr
A’i phinna rhyd llawr –
A hwfro di un o’m cas betha’

Dwi di laru wedi blino ac ma’r plant ma’ isio ‘trimio
“ Wnewch chi stopio’r Jingle Bells ar y piano !”
Ac mi a i yn boncyrs
Yn lloerig a chracyrs
Os clywai lais Cliff Richards eto

Cytgan

‘Dwi bron a drysu’n llwyr ac ma’ nghardia’ fi’n hwyr
‘Dwi di methu’r dyddiad postio eto
Ma’r mins peis yn galed
A mae’r ‘bread’ sauce’ yn solad
A ma’r holl bresanta’ heb eu pacio

Ma na swllt yn y stwffin a saij yn y pwdin
Ac mae’r deisien isio’i heisio
Ma’r twrci ‘di rhewi
Ma ‘na lympia’n y grefi
A ma Daf a Caryl ar y radio - Eto!!!

Cytgan

Ma’r Hen Fari Lwyd yn hefru isio bwyd
A ma’r Plygeiniau yn plagio
Ma’r eira yn slwj
Teledu’n llawn rwj
A ma’ môblys i angen ei twinclo !

Cefais syniad fel bollten, mi ga’i Ddolig bach amgen,
Sdim rhaid i mi fod yn hymbygen
Caf stwffio’r Nadolig
Yn lle’r twrci animig
A rhoi’r pres i gyd i Blant Mewn Angen !

Cytgan

Elsan, coban a radio,
Morthwyl, sosban a banjo,
Sinc y gegin, gwr sy’n flin -
Rwyf innau’n carafanio!

Mae Wil drws nesa’n campio;
Mae Wil yn mawr obeithio
Y deil y babell ddwr, mae’n frau -
Rwyf innau’n carafanio

Rwyf finnau’n carafanio,
Drwy’r haf mi fyddai’n llusgo
Fy hafan glyd i hyfryd ddôl
A phawb o’m hôl yn fflamio

Udo mae yr awyrennau,
Rhwygo’r cwm, byddaru clustiau,
‘Marfer bomio mam a’i baban,
Dynion twp yn ffilmio’r cyfan.

Sgrechian heibio mae y bomar
Ar ei hochr, mor ymffrostgar,
‘Marfer bomio mam a’i phlentyn -
Ffilmio maent o ben bob boncyn

Hedfan mae’r ehedydd bychan,
Heda hithau y dylluan,
Hedfan fry mae awyrennau,
Hedfan mae fy mywyd innau.

Heda fry’r ehedydd bychan,
Hed yn dawel iawn dylluan,
Heda’n mhell ‘r aderyn drycin,
Hed yn ôl i’m côl fy Robin

Pwy sy’na yn paentio yr enfys yn ddu ?
Pwy sy’na yn hedfan drwy’r awyr fry fry’ ?
Pwy sydd yn gwneud drygau bob bore a phnawn ?
Wel Rwdlan y wrach fach ddireudus siwr iawn!

Pan ddaw'r mor i ddringo'r mynydd
Mi waeddwn yn uchel, och, gwae,
Ond llawer rhy hwyr fydd ein gweiddi
A dyffryn Dysynni yn fae.

Yn fywiog o simsan
Yn llaw mam
Pob cam yn orchest
Pob gris yn gynnwrf
Dau lygaid serenog yn syllu’n ddisglair ddisgwylgar
tua’r brig.
Dwy droed fach dew mewn sandals meddal
Coesau crwm ystwyth
yn bustachu
Y gamp o gael cyrraedd
yn orfoledd o sgrechian
Curo dwylo
Eto. Eto.

Yn simsan mewn cariad
Ym mreichiau cymar
Pob cam yn orfoledd
Pob gris yn gynnwrf
Canhwyllau disglair yn nyfnder ei llygaid
a’r llwybr yn sicr yng ngoleuni eu gwawl
Dwy droed gadarn
yn camu’n ddi-ymdrech
Coesau ystwyth, siapus
yn llamu
dwy ris ar y tro
ac yfory ymhell bell o’i cho’.

Yn boenus o simsan
Yn nwrn ffon
Pob cam yn orchest
Pob gris yn gamp
Dau lygaid pŵl yn syllu’n hiraethus
tua’r copa
yn cofio ddoe
tra’n cymryd hoe
cyn cychwyn eto
Dwy droed chwyddiedig
mewn sandals meddal
Coesau crwm trwm
yn bustachu
a methu

Dwi’n mynd i gar-bwt bob dydd Sul, i arbed talu casgliad,
Ac er mwyn gwerthu peth o’m rwts – hen fodrwy gan hen gariad,
‘Vase’ ddigon hyll ‘rol Modryb May ac ambell bresant priodas,
‘Egg coddlers’ Royal Doulton piws a lamp fu ar set ‘Dinas’,
Hen bot pi-pi fy hen hen daid ac Etch O Scetch o’r sicsdis,
Llond crochan fawr o rwd a llwch a llond hen jar o farblis,
Pum torth frith heb godi’n iawn, a ‘stand’ i ddal bananas,
Dwy C.D. Cor Gorau Glas a llyfrau Bethan Gwanas,
Fe’i gwerthais oll i Frymis tew – mi brynith rheini rwbath –
Dwi innau’n trio tynhau’r belt drwy werthu ar y Sabath.


 

Oriel Lluniau Mair Tomos Ifans

pix pix pix pix pix pix

AmdanafMair Tomos Ifans

Cyfarwydd – dyna ydw i. ‘Dwi’n adrodd chwedlau, straeon a hanesion traddodiadol am gewri Cymru a thylwyth teg, am arwyr a dihirod, am ddigwyddiadau od a chreaduriaid dychrynllyd. Mae gen i delyn fach benglin a bydd honno yn fy helpu i ddweud y straeon drwy ganu caneuon ac alawon traddodiadol pwrpasol. mwy...

Cysylltwch a fiMair Tomos Ifans

Cliciwch yma i lenwi ein Ffurflen Cysylltu

Bookmark and Share