Cyfarwydd – dyna ydw i. ‘Dwi’n adrodd chwedlau, straeon a hanesion traddodiadol am gewri Cymru a thylwyth teg, am arwyr a dihirod, am ddigwyddiadau od a chreaduriaid dychrynllyd. Mae gen i delyn fach benglin a bydd honno yn fy helpu i ddweud y straeon drwy ganu caneuon ac alawon traddodiadol pwrpasol.
Byddaf hefyd yn cynnig gweithdai drwy Gymru ben-baladr – gweithdai yn ymwneud â’n traddodiadau Cymreig a Chymraeg ac yn ymweld ag ysgolion i gyflwyno a chwarae gemau buarth tradddodiadol a newydd sbon.
Amdanaf Fi
