Gweni ydi fy nrama un ddynes ddiweddaraf. Y fi sydd wedi ysgrifennu’r sgript a finnau sydd hefyd sydd yn actio ynddi. Gwaith comisiwn ar gyfer Gŵyl y Grawnwin 2016 oedd Gweni. Y dechreubwynt oedd chwedl Santes Gwenffrewi. Byddaf yn ei hatgyfodi ar gyfer un perfformiad yn yr Eisteddfod gyda’r bwriad wedyn o benderfynu os y bydd yn teithio led gwlad. Mae’r ddrama yma yn un ddwys ac yn wahanol iawn i’r math o waith y mae pobl yn ei gysylltu a mi fel arfer.
Yr wyf wedi perfformio a theithio sawl sioe un ddynes gan gynwys Yma o Hyd – sioe yn seiliedig ar nofel Angharad Tomos; sioe y bum yn ei pherfformio yn ôl y galw am nifer fawr o flynyddoedd gan gynnwys ym Mhatagonia. Bu Yma o Hyd yn rhanu taith efo Dyfan Roberts a oedd yn perfformio ei sioe un dyn ynatau Val.
Comisiynwyd Dan Glo gan y Gwasanaeth Prawf . Fe’i hysgrifenwyd gan Angharad Tomos mewn cydweithrediad a Nan Powell-Davies. Bum yn perfformio Dan Glo mewn amrywiol leoliadau gan gynnwys mewn Capeli yn ystod neu yn hytrach na’r gwasanaeth arferol. Mae’n sioe sy’n adrodd profiadau dynes o sir Fon sy’n cael ei charcharu ac ymateb ei chymuned iddi wedi iddi gael ei rhyddhau. Mae’n sioe sy’n herio unrhyw gynulleidfa sydd yn honni eu bod yn arddel maddeuant fel canolbwynt eu cred ac yn ennyn trafodaeth wedi’r perfformiad.
![]() |
![]() |
Dyma rai o’r cynhyrchiadau Theatr y bum yn rhan ohonynt :
SIOE | CWMNI |
Ceiniog i Cadi | Cwmni’r Fran Wen |
Cadwyn Frau | |
Gwyl India | |
Bwrlwm Byw | |
Zwmba | Theatr Bara Caws |
Mwnci Nel | |
Yn ein Dwylo | Arad Goch |
Hyn oll yn ei Chalon | |
Cai | |
Rwtsh Ratsh Rala Rwdins | |
Cerdyn Post o Wlad y Rwla | |
Fel Paent yn Sychu | |
Enoc Hughes | Theatr Gwynedd |
Leni |
Bum hefyd yn rhan o gast parhaol cyfresi Radio megis Buchedd Nathan ac Anturiaethau Dic Preifat ac mewn sawl drama radio gan gynnwys Miss Julie gan Strindberg lle roeddwn yn chwarae rhan Christine.
Bum mewn sawl cyfres gomedi Teledu ar S4C ac yn portreadu Geini yn Traed Mewn Cyffion
Yr wyf wedi bod yn portreadu Rala Rwdins ers dros 20 mlynedd ac yn ei hadnabod yn dda! Bydd Rala a mi yn teithio led-led Cymru ar ein hysgub ac yn glanio mewn ysgolion a llyfrgelloedd a gwyliau i berfformio straeon a chaneuon. Weithiau mae Angharad Tomos ei hun yn ymuno efo ni!